Tre-Ysgawen Hall
Capel Coch
Llangefni
Anglesey
Tel: + 44 (0) 1248 753270
More Information >Anglesey Sea Zoo
Brynsiencyn
Isle of Anglesey
LL61 6TQ
Tel: +44 (0) 1248 430411
More Information >Château Rhianfa
Beaumaris
Isle of Anglesey
LL59 5NS
Tel: +44 (0) 1248 713 656
More Information >Plas Newydd
Llanfair Pwllgwyngyll
LL61 6DQ
Tel: +44 (0)1248 714795
www.nationaltrust.org.uk/plas-newydd/
More Information >Mae Taro twristiaeth yn adnodd addysg newydd a ddatblygwyd yn 2019 gan gyflogwyr o’r sector twristiaeth ar Ynys Môn, gyda chefnogaeth ac arweiniad y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol y sector addysg a’i ariannu gan Llywodraeth Cymru.
Pwrpas yr adnodd yw tanio chwilfrydedd a chyffro disgyblion ifanc am yr ystod eang o gyfleoedd gyrfaol o ansawdd sydd gan y diwydiant twristiaeth i’w cynnig iddynt yn y dyfodol ar Ynys Môn, a thu hwnt. Mae’r adnodd hwn yn annog disgyblion i wneud y cysylltiad rhwng yr hyn y maent yn ei ddysgu yn y dosbarth o oedran ifanc a’i werth a’i berthnasedd yn y byd ‘go iawn’ yn ddiweddarach mewn bywyd, fel oedolion yn y gweithle.
Pam datblygu deunyddiau newydd yn seiliedig ar y diwydiant twristiaeth ar gyfer y cwricwlwm newydd?
Datblygir yr adnodd hwn am ddau reswm:
Mae’r adnodd yn galw am i swyddi a gyrfaoedd yn y sector twristiaeth gael hwb go iawn gan y sector addysg i ddangos i blant, pobl ifanc, rhieni ac athrawon bod llawer ar gael yn y diwydiant hanfodol hwn, ar Ynys Môn yn arbennig, ond ar draws Gogledd Cymru hefyd.
Beth fydd disgyblion yn ei ddysgu?
Mae dysgu a pharhau i ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn hanfodol i’r diwydiant twristiaeth ac yn ychwanegu gwerth i’r rhan fwyaf o swyddi.
Mae hanes a diwylliant yn thema drawsbynciol mewn twristiaeth a bydd yn ychwanegu gwerth at faes dysgu’r dyniaethau yn y cwricwlwm newydd, gan ddod ag enghreifftiau go-iawn i danio dychymyg dysgu disgyblion.
Mae Mathemateg, Gwyddoniaeth, Cyfrifiaduron /TG a dysgu digidol yn themâu trawsbynciol allweddol yn yr ysgol a’r cwricwlwm newydd. Mae’n allweddol i’r diwydiant twristiaeth o ddydd i ddydd hefyd!
Mae cysylltiad agos rhwng chwaraeon a thwristiaeth ac mae Llywodraeth Cymru am adnabod Gogledd Cymru fel y gyrchfan ‘Twristiaeth Antur’ yng Nghymru! Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous iawn i’r sector fydd angen mwy o bobl i ddod â syniadau newydd, cael hyfforddiant arbennig, bod yn hyfforddwyr ac arweinwyr newydd, deall iechyd a diogelwch a charu gweithio gyda phobl.